13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o'i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o'r ddaear;
15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i'w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwningod.
19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.