1 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.
2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.