1 O'r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd.
2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif?
4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner.
5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.