1 Clodforaf di â'm holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
2 Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
3 Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
4 Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau.
5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.