10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i'w ddistryw.
12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.