2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo'r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.
6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau.
7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8 Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.