1 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.