13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a'u gorchfygodd hwynt.
15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.