16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
20 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.
22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.