29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.
30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31 Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?
32 Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y'm sefydla.
34 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.