34 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.
36 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
37 Erlidiais fy ngelynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
38 Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.
40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.