6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd.
7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd.
9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth.
10 Pan yw fy nhad a'm mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn.
11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.
12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i'm herbyn.