12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
13 Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.
14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a'i glustiau sydd yn agored i'w llefain hwynt.
16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
17 Y rhai cyfiawn a lefant; a'r Arglwydd a glyw, ac a'u gwared o'u holl drallodau.
18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.