8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef.
10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.
11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd.
12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
13 Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.
14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.