1 Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd.
2 Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
3 Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4 Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i'th erbyn.
5 Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6 Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.