8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.
9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.