1 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.