1 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â'm genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
3 Gwneuthum amod â'm hetholedig, tyngais i'm gwas Dafydd.
4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
5 A'r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a'th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.
6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn?