1 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
2 Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.
3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
4 A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.