20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn.
21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o'r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw.
22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.
23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara:
24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.
25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.
26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.