13 Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.
14 Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.
15 Beth gan hynny? Mi a weddïaf â'r ysbryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd: canaf â'r ysbryd, a chanaf â'r deall hefyd.
16 Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?
17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.
18 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll:
19 Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.