1 A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch.
2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â'r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd.
3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd:
4 (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr;)