28 Heblaw'r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.
29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi?
30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i'm gwendid.
31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:
33 A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o'i ddwylo ef.