9 A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.
10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia.
11 Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.
12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.
13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.
14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.
15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.