1 Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a'n Hachubwr Iesu Grist:
2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni,
3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a'n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:
4 Trwy'r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy'r rhai hyn y byddech gyfranogion o'r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.
5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth;