18 A'r llef yma, yr hon a ddaeth o'r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.
19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio'r dydd, ac oni chodo'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:
20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o'r ysgrythur o ddehongliad priod.
21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.