5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth;
6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb;
7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.
8 Canys os yw'r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
9 Oblegid yr hwn nid yw'r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.
10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth:
11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist.