13 Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi;
14 A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith:
15 Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;
16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â'r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.
17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i'r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.
18 Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio'r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn.
19 Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.