1 Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi:
2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a'n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a'r Iachawdwr:
3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain.
4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth.
5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a'r ddaear yn cydsefyll o'r dwfr a thrwy'r dwfr.
6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd.