2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a'n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a'r Iachawdwr:
3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain.
4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth.
5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a'r ddaear yn cydsefyll o'r dwfr a thrwy'r dwfr.
6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd.
7 Eithr y nefoedd a'r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy'r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.
8 Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda'r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.