16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.
17 Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.
18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.
20 Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.
21 Ac wedi iddynt bregethu'r efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22 Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.