2 Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau'r Cenhedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.
3 Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.
4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.
5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u llywodraethwyr, i'w hamherchi hwy, ac i'w llabyddio,
6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlad oddi amgylch:
7 Ac yno y buant yn efengylu.
8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed.