12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a'r rhai oedd o'r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem.
13 Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i'm rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.
14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15 Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem.
16 A rhai o'r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda'r hwn y lletyem.
17 Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.
18 A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a'r holl henuriaid a ddaethant yno.