14 Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.
15 Ac oddi yno, pan glybu'r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.
16 Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.
17 A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.
18 Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.
19 Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.
20 Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.