18 Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.
19 Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.
20 Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.
21 A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti.
22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.
23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i'w lety; i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r proffwydi, o'r bore hyd yr hwyr.
24 A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.