5 Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.
7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.
8 A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i hiachaodd.
9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd:
10 Y rhai hefyd a'n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a'n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.
11 Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux.