12 Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a'r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.
13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.
14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffeithwch, i'w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.
15 A'r sarff a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda'r afon.
16 A'r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a'r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.
17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.