8 Ac ni orfuant; a'u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.
9 A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.
10 Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.
11 A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.
12 Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a'r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.
13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.
14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffeithwch, i'w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.