1 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau.
2 Ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau:
3 A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a'r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu'r gân, ond y pedair mil a'r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear.
4 Y rhai hyn yw'r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen.
5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw.
6 Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl: