9 A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law,
10 Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen:
11 A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.
12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae'r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu.
13 Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.
14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym.
15 Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.