1 Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.
2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.
3 A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint.
4 Pwy ni'th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.
5 Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored:
6 A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o'r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.