6 Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.
7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.
8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.
9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.
10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.
11 Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.
12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun: