1 Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a'r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt.
2 Bydd wyliadwrus, a sicrha'r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw.
3 Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat.
4 Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.
5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef.
6 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.