18 Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.
19 Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu'r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha.
20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.
21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orseddfainc ef.
22 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.