1 Sefwch gan hynny yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.
2 Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi.
3 Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a'r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.
4 Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.