19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,
20 Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau,
21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest:
23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf.
24 A'r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â'i wyniau a'i chwantau.
25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.