15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer;
16 Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint.
17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu'r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.
18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl,
19 A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a'i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt:
20 (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â'r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell.
21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.)