2 Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.
4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.
5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyhoedder ganddo:
6 Canys y neb y mae'r Arglwydd yn ei garu, y mae'n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?
8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.