7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?
8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.
9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?
10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a'n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd ef.
11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef.
12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny'r dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyngasant.
13 A gwnewch lwybrau union i'ch traed; fel na throer y cloff allan o'r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.