3 Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo'r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i:
4 Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?
5 Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
6 Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?
7 Onid ydynt hwy'n cablu'r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?
8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:
9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.